|
|
|
|
|
Llangrannog Mawr fu'r edrych ymlaen at y pedwerydd o Hydref pan oedd plant Blwyddyn 5 a 6 yn mynd i Langrannog am benwythnos. Buom yn brysur drwy'r amser yn rhoi tro ar y gweithgareddau amrywiol ac yn bwyta'r bwyd blasus nes yr oeddem i gyd wedi blino'n llwyr erbyn cyrraedd adref brynhawn dydd Sul. Diolch i Miss Davies ac i Miss Roberts am ddod gyda ni a gobeithio iddyn nhw fwynhau eu hunain cymaint â ni.
Gwasanaeth Diolchgarwch Class 5 oedd yn gyfrifol am Wasanaeth Diolchgarwch yr ysgol eleni gyda phob adran o'r ysgol yn cyfrannu eitem. Braf oedd cael cwmni dau oedolyn yn y gwasanaeth, sef, Mr John Holton ac Emma Marshall. Arddangoswyd y bwyd a gyfrannodd y Babanod a'r Clwb Garddio ynghyd â threfniant natur gan Mrs Hurford. Eglurodd Mr Holton sut y byddai'r bwyd yn cael ei ddefnyddio gan Fyddin yr Iachawdwriaeth i helpu pobl llai ffodus na ni yng Nghaerdydd. Rhoddodd Emma Marshall nifer o enghreifftiau i ni sut y mae Barnardos Cymru yn defnyddio'r arian y maent yn ei gael cyn derbyn siec am £239.03, sef, casgliad Diolchgarwch yr ysgol
Neuadd yr Eglwys Aeth Côr yr ysgol i Neuadd yr Eglwys i ddiddanu Cymdeithion Creigiau. Cawsom groeso cynnes ac wedi canu nifer o emynau a chaneuon llawn sbri, cawsom ddiolch blasus, sef, diod a bisgedi siocled.
Penblwydd Hapus Penblwydd hapus i Jac y Jwc. Roedd yn dathlu penblwydd arbennig iawn - 25oed! Ar ôl i'r ysgol ganu iddo cafodd barti penblwydd yn Nosbarth 1. Roedd y jeli yn flasus iawn yn ôl pob sôn!
Croeso Croeso i ddau fyfyriwr i'r Adran Gymraeg. Mae Miss Jones a Mr Rock wedi cychwyn yn Nosbarth 1 a byddant yn dod yn ôl i gael profiad mewn dosbarthiadau eraill yn yr Adran yn ystod y flwyddyn.
Cromlech Creigiau Fel rhan o'n gwaith ar y Bobloedd Cynnar, aeth Dosbarth 5 i weld y Gromlech sydd erbyn hyn yng ngardd Cae'r Arfau. Wedi edrych yn fanwl arni buom yn creu brasluniau ohoni. Diolch i'r rhieni caredig a aeth â ni yno yn eu cerbydau.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Hwyl Fawr Dymuniadau gorau i Mrs Tewkesbury sydd wedi cychwyn ar ei chyfnod mamolaeth. Rydym yn ffodus fod Mrs Stone, sy'n gyfarwydd i ni i gyd, yn cymryd ei lle.
Tesco Aeth Robert Morgan ac Olivia Grant gyda Mrs Davies i Tesco, y Bad Uchaf, i dderbyn tystysgrif am gasglu cymaint o docynnau cyfrifiadur, ac i dderbyn cyfrifiadur a meddalwedd oddi wrth Jane Davidson.
Pêl-droed Aeth tîm pêl-droed yr ysgol i chwarae yn erbyn Trefforest. Cafodd Mr Evans ei blesio'n arw gan fod y tîm wedi chwarae'n arbennig o dda er iddyn nhw golli o un gôl i ddim.
Rygbi Derbyniodd pob plentyn ym Mlynyddoedd 5 a 6 dystysgrif am gwblhau'r gwersi rygbi yn llwyddiannus gyda Mr Williams a Mr Wyatt. Aeth y tîm rygbi i Rhiwbeina i gymryd rhan mewn cystadleuaeth yno.
P.C.Jones Daeth P.C.Jones i'r ysgol i siarad gyda'r Babanod Cymraeg ddwywaith! - ond nid am eu bod nhw'n ddrwg. Daeth â Bobi y car gyda hi un tro a dangosodd ei gwisg a'i hoffer a fideo i'r plant. Roedd pawb wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer hefyd.
Y Meddyg Diolch i Doctor Herbert {mam Geraint, Catrin ac Aled} am ddod i siarad â Dosbarth 3 am rannau'r corff sy'n ymwneud â'r Synhwyrau, sef, thema'r dosbarth y tymor hwn.
Llythyr Bu plant Dosbarth 4 yn brysur yn ysgrifennu llythyron i'w rhieni i ddiolch am eu cartrefi cyn cerdded i'r Swyddfa Bost i'w postio.
Gwibdaith Dosbarthiadau 4 a 5 Aeth plant Dosbarth 4 a 5 i ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf. Diolch i'r gwirfoddolwyr fu'n ein tywys o gwmpas yr adeilad ac yn adrodd ei hanes. Ar ôl cael cinio yn y parc, aethom. i gyfarfod y Parchedig Gareth Rowlands, gweinidog Bethlehem, Gwaelod y Garth. Eglurodd a dangosodd ddau o'r sacramentau i ni, sef, y bedydd a'r cymun. Diolch yn fawr iddo am y croeso.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Fy enw yw Leah Gwyn Rhydderch ac rwyf newydd gael fy mhenodi yn Swyddog Cysylltiadau Busnes Menter Caerdydd. Gwaith y Fenter yw hyrwyddo'r iaith Gymraeg ar draws Caerdydd, yn codi ei phroffil ym mhob agwedd o fywyd y gymuned. Hanfod fy swydd i fydd sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle canolog ym musnesau ardal Caerdydd a phwysleisio fod yr iaith Gymraeg yn iaith fyw ac y byddai presenoldeb yr iaith yn fantais gystadleuol iddynt
Rwy'n byw yng Nghaerdydd ond treuliais y rhan fwyaf o'm hieuenctid yn Nhudweiliog ger Pwllheli, Pen Llyn, ardal yn llyfeirio o laeth a mêl!. Bum yn ddisgybl yn Ysgolion Tudweiliog a Botwnnog, Coleg Penrallt Pwllheli cyn mentro i'r ddinas i astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Graddiais eleni a threulio fy ngwyliau haf yn trafeilio Ewrop.
Rwy'n Gymraes i'r carn a theimlaf bod byw ym Mhen Llyn wedi sicrhau fod Cymreictod a'r Iaith Gymraeg yn agos iawn at fy nghalon. Y mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn i mi. Y mae galw mawr am statws swyddogol i'r iaith Gymraeg a hynny yn enwedig yn y sector preifat. Mae'r iaith Gymraeg yn iaith ddeinameg sy'n tyfu. Dylid manteisio ar y cyfle felly i gyflwyno'r iaith i fusnesau gan bwysleisio arf mor bwysig ydyw ym myd cystadleuol busnes. Nid ffosil yw'r iaith Gymraeg ond iaith sydd yn ffynnu, ac edrychaf innau ymlaen fel rhan o dim Menter Caerdydd i'w hyrwyddo a'i hamddiffyn a rhannu awydd pobl leol i weld mwy o ddefnydd ohoni.
|
|
|
|
|
|
|