|
CROESO I FFION ELEN - Llongyfarchiadau i Lowri a Jeremy Jones, 21 Clos y Brenin, Pontyclun ar enedigaeth Ffion Elen. Hi yw eu merch fach gyntaf anedig ac fe'i ganed hi yn ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant. Mae Lowri yn gyn-ddisgybl o Ysgol Llanhari ac yn ferch hynaf Lyn ac Angela Devonald o Bentyrch.
ADRODDIAD AM DAITH CÔR IAU RICHARD WILLIAMS I'R ALMAEN A'R ISELDIROEDD
Soniais rai misoedd yn ôl bod Catrin Greaves, Heol y Pistyll, Llantrisant wedi ymuno â Chôr Iau Richard Williams, Tonyrefail. Mae Catrin, sy'n unarddeg blwydd oed, yn hoff iawn o ganu yn ogystal â darllen ac ysgrifennu. Cytunodd hi, yn garedig iawn, i roi adroddiad i ni am ei thaith i'r cyfandir gyda'r côr yn ystod gwyliau'r haf - dyma'r hanes: Rwyf wedi bod yn aelod o Gôr Plant Richard Williams am flwyddyn ac yn ystod y gwyliau haf cefais i gyfle ardderchog i ganu mewn tri chyngerdd yn yr Almaen a'r Iseldiroedd gyda gweddill y côr (sydd yn mynd ar drip tebyg bob dwy flynedd). Dyma'r tro cyntaf i mi fod ar drip canu ar roeddwn i yn edrych ymlaen yn fawr iawn. Roedd y daith yno yn hir ac yn ddiflas. Cwrddon ni yng Nghanolfan Cerddoriaeth Tonyrefail (lle bu ymarferion côr bob dydd Mawrth a Iau) yn gynnar, gynnar y bore a chychwyn ar ein taith i Valkenburg. Cyrhaeddon ni'n hwyr y nos yn flinedig iawn. Roedden ni'n aros yng ngwesty Dupuis ac roedd gan y côr y gwesty cyfan i'w hunain. Yn anffodus, nid oedd Mr Williams ei hun yn gallu dod ar y trip yma, ond roedd yn llwyddiant ta beth. Gyda'r cyngerdd cyntaf rownd y gornel roedd pawb yn gyffrous, yn enwedig y plant llai (mae'r côr yn derbyn plant o 7 oed i 18) a merch Mr Williams, Margaret oedd yn cymeryd ei le am y tro cyntaf! Roedd y gyngerdd yma yn y 'bandstand' leol ble roedd pawb a oedd yn pasio yn gallu gwrando arnon ni'n canu. Mae'r caneuon a ganon ni yn cynnwys "Dwylo dros y Môr", "Suo Gân", "Ar Lan y Môr",
|
|