<< Tudalen Blaenorol

Tafod Elái Chwefror 2003

Tudalen Nesaf >>

PENTYRCH

Gohebydd Lleol: Bethan Griffith

Ffarwelio
Yn ystod dyddiau ola' Rhagfyr, bu rhaid ffarwelio â'r teulu Hughes o Heol y Parc. Mae'r teulu bellach wedi symud i fyw i Aberdyfi, lle ganed Gareth. Mae'r plant wedi ymgartrefu yn Ysgol Gynradd  ac Ysgol Uwchradd Tywyn, a gobaith Ann a Gareth yw troi un o'r gwestai lleol yn appartments moethus i'w gosod. Gyda phrofiad a syniadau anhygoel Ann, fydd 'na ddim adnabod y lle, ymhen dim.
   Pob lwc a dymuniadau gorau i chi. Mi fydd 'na golled ar eich ôl. 

Clwb y Dwrlyn
Ar nos Lun cyn y Nadolig, aeth criw o gwmpas y pentref i ganu carolau a chasglu arian at  Apel Arch Noa. Roedd y glaw wedi cadw i ffwrdd ac roedd y cantorion brwdfrydig wedi cael hwyl ar y canu ac ar y cawl arbennig a baratowyd ar eu cyfer yn y Clwb Rygbi.
   Ar noson y 10fed o Ionawr, fe aethom a'r Fari Lwyd o gwmpas Pentyrch. Mae 'na hanes am drigolion ardal Pentyrch yn dilyn "Y Fari Lwyd" hyd ymron i hanner can mlynedd yn ôl. Mae'r Clwb wedi adfer yr hen arferiad ers rhai blynyddoedd bellach. Penglog "Y Fari" o Bentyrch sydd i'w gweld yn Sain Ffagan - rhodd gan Twm a Shoni Caerwal.

Lladrad
Byddwch yn wyliadwrus. Yn oriau man y bore yn ddiweddar, bu 'na ladrata o garej ffrind, sy'n byw ar Heol y Pentre'. Collwyd llawer o offer garddio ac offer golff.

Llongyfarchiadau
Gwyliwch y ffyrdd! Mae dwy o ferched y pentref wedi bod yn llwyddiannus yn eu profion gyrru, yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i Rachel Perryman a Sara Lewis, y ddwy yn ddisgyblion yn Llanhari.

Ddyweddiad Dwbl!
Llongyfarchiadau  i Carys a Rhodri Wynne (brawd a chwaer) ar eu dyweddiadau yn ddiweddar.

Mari Lwyd y Dwrlyn yn y King's Arms

Ychydig cyn y Nadolig, cafwyd newydd am ddyweddiad Carys i Grant Fanderf, ac yna ychydig wedi'r Flwyddyn Newydd, clywsom am ddyweddiad Rhodri i Reyna Maldonado, sy'n hanu'n wreiddiol o Fecsico. Mae 2003 yn mynd i fod yn flwyddyn brysur i Rowland a Marion. Llongyfarchiadau calonnog  i Carys a Grant ac i Rhodri a Reyna.

Don Llywelyn
Ar ei raglen newydd ar nos Sul bu Dei Tomos yn sgwrsio gyda Don Llywelyn am rhai o gymeriadau'r

ardal ac am Gymreigrwydd pentref Pentyrch. Sgwrs ddiddorol dros ben.

Merched y Wawr
Daeth y Fari Lwyd i ymweld â chriw Cangen y Garth yn y King's Arms ym mis Ionawr. Cafwyd noson ddifyr yn cadw traddodiadau'r Hen Galan.

Swydd Newydd
Dymuniadau gorau i Llio Penri, Pantbach, ar ei phenodiad i swydd newydd fel Swyddog y Wasg i fudiad 'Help the Aged Cymru'.

Menter Iaith
CWLWM BUSNES Y CYMOEDD
Yng Nghanolfan Menter y Cymoedd, Parc Navigation, Abercynon, Aberdâr  6.30 - 9.00

NOS FAWRTH  CHWEFROR  25
Alun Cairns AC
`Plaid Geidwadol Cymru, plaid busnes Cymru?'

NOS FAWRTH  MAWRTH 25
Rhys Mwyn, Sain
'Cðl Cymru?  Dyfodol roc a phop Cymraeg'

CYRSIAU HYFFORDDIANT
Y CWLWM BUSNES
Mewn cydweithrediad gyda  'POTENTIA'
Ym Mharc Treftadaeth y Rhondda   6.30 - 9.30

NOS LUN  CHWEFROR 17
'Deffro Ysbryd Mentrus'

NOS LUN   MAWRTH 17
Testun i`w gadarnhau

Am fanylion pellach cysylltwch â: Julie Willams ( 01685 877183
* juliewilliams@menteriaith.org

3

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>