<< Tudalen Blaenorol

Tafod Elái Chwefror 2003

Tudalen Nesaf >>

CAU
CAPEL Y TON


Ar Sul  olaf y flwyddyn 2002 datgorfforwyd Capel Y Ton ar ôl  dros ddwy ganrif o addoli. Roedd y gorchwyl amhleserus yn llaw Llywydd Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg Y Parchedig T. Evan Morgan, Bugail Salem, Canton Caerdydd. Daeth cynulleidfa niferus ynghyd, rhai wedi dod o bell a oedd ganddynt gof byw am yr hen amser llewyrchus a fu.
   Roedd yno dros 100 o aelodau adeg yr ail ryfel byd a rhain wedi gostwng i 13eg o aelodau, Miss Jean Thomas, Miss P. Vida Morgan, Mrs C. Buck, Mrs Beryl E.Davies, Mrs M. Holtam, Mrs Mary Williams, Mr D. Jenkyn Davies, Mrs Gwennie John, Mr Dewi Bonner, Mrs Myfanwy Hunt, Miss Betty Prosser, Miss Marion Llewelyn a Mrs Ivy Priddle. Mae marwolaeth Mrs Priddle ar y 6ed o Ionawr yn gwneud y rhif erbyn hyn yn 12eg.
   Cafodd y gwasanaeth cyntaf Methodistaidd ei gynnal yn 1770 yn ffermdy bonedd Collenna sydd i'r gogledd i bentref Tonyrefail, ar ôl i  Mr a Mrs Evan Prichard Collenna  fynd i wrando ar bregethu grymus awyr agored yn ymyl Capel Llanbad sydd ar ben mynydd y Rhiw yn gwynebu ar Llanharan. Mae'r adfeilion yn dal yno.
   Yn draddodiadol roedd dathlu Gwyl Mabsant yn bwysig iawn yn y cyfnod hynny, roedd yr ðyl ar y Sul yn dilyn Gðyl Ddewi. Dirywiodd y dathlu'n derfysglyd gan y dawnsio ac yfed a gamblo wrth ddathlu

dyfodiad y gwanwyn. Doedd hyn ddim wrth fodd y Parchedig Dafydd Jones a oedd wedi ei benodi yn Ficer Llangan yn 1767. Roedd  Dafydd Jones yn bregethwr grymus ac yn benderfynol o newid safon moesoldeb a chrefydd, roedd yn un o'r grwp cynnar Methodistaidd i ddiwygio ac adfywio'r Eglwys oddi mewn.
   Daeth tyrfa fawr i wrando ar ei bregethu  awyr agored ag yn fuan iawn try'r ðyl Mabsant yn yr hyn roedd yn ei gondemnio yn Gymanfa  Ganu. Bu'n cynnal gwasanaethau blynyddol yno am ddeng mlynedd ar hugain.
   Daeth pregethwyr enwog iawn y cyfnod i gynnal gwasanaethau yn ffermdy Collenna fel y Parchedigion Dafydd  Jones Llangan.Peter Williams Caerfyrddin ar emynwr amlwg William Willians Pant y celyn a ysgrifennodd alargan i Susanah Prichard un o ferched Collenna. Roedd yno bulpud arbennig yn cael ei ddefnyddio yno.

Diflannodd hwnnw ac nis gwyr neb i ble.
   Adeiladwyd y capel Methodistaidd cyntaf  yn 1791 ar dir a roddwyd gan deulu  Collenna ar les 999 o flynyddoedd. Deugain o flynyddoedd yn ddiweddarach adeiladwyd yr ail gapel tu ôl i'r hen adeilad. Agorwyd  gyda dathliadau ar y10fed ar 11eg o fis Mai1836.
   Yn y flwyddyn 1857 adeiladwyd y festri  a defnyddiwyd y festri i gynnal Bwrdd Ysgol hyd at 1870. Adeiladwyd y trydydd capel yn 1863 y tu ôl eto i'r ail a hwn felly yw'r capel presennol a galwyd yn Capel Ar Y  Ton. Cafodd y capel hwn ei adeiladu gan wirfoddolwyr a chostiodd £1300 a thalwyd y ddyled erbyn1880.
   Yn 1893 adeiladwyd y tþ capel a helaethu'r festri am gost o £1100.

Cofeb i'r Hybarch Williams Evans

4

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>