<< Tudalen Blaenorol

Tafod Elái Mawrth 2003

Tudalen Nesaf >>

TONTEG A PHENTRE'R EGLWYS

Gohebydd Lleol: Meima Morse

GILFACH GOCH

Gohebydd Lleol: Betsi Griffiths

Dosbarth Cymraeg
Roedd y drefn ychydig yn wahanol yn nosbarth Cymraeg Calfaria un prynhawn Dydd Mawrth yn ddiweddar oherwydd cafwyd parti i ddathlu penblwydd arbennig Mr Howard Reed yn 80 oed . Mae Mr Reed sy' n byw yn Nhonyrefail wedi bod yn ffyddlon iawn i'r dosbarth ers pum mlynedd. Pan oedd yn ifanc roedd yn hoff iawn o fynd ar deithiau ar gefn ei feic ond mae' n defnyddio' r car yn awr . Mae e'n hoff iawn o gerdded o hyd ac mae e'n cerdded pum milltir bob dydd yn mynd â'r ci am dro. Llongyfarchiadau Howard a dymuniadau gorau am sawl penblwydd eto.
   Mae dosbarth arall yn cyfarfod yn Neuadd Cambrian Avenue ar nos Fawrth, ac mae nhw wedi bod yn dathlu geni Anna merch fach

Elizabeth a Philip ar Ionawr 25ed. Dymuniadau gorau i'r teulu bach.

Gwellhad Buan
Dymuniadau gorau am wellhad buan i Miss Ray Thomas Wood Street sydd ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty'r Waun Caerdydd. Gobeithio y bydd hi nôl adre yn fuan iawn.

Cynllun Chwarae
Cynhaliwyd Cynllun chwarae llwyddiannus iawn dros Gwyliau Hanner Tymor yn y Neuadd Gymunedol. Thema'r gweithgareddau y tro hwn oedd 'Roc a Rol' Bu'r plant wrthi drwy'r wythnos yn dysgu dawnsio Roc a Rol,yn cynllunio a gwneud Juke Box ac yn cynllunio a gwneud eu gwisgoedd ar gyfer y parti a gynhaliwyd ar y prynhawn dydd Gwener. Roedd y neuadd wedi ei addurno â phosteri o waith y plant ac roedd y parti yn llwyddiant ysgubol a phawb wedi mwynhau ei hun yn fawr iawn ac wedi dysgu llawer tra'n mwynhau. Llongyfarchiadau i staff y Ganolfan a'r gwirfoddolwyr a fu'n eu cynorthwyo.

Cofiwch Gloi'r Drws!
Roedd Mrs Gwyneth Abraham,sy'n 89 oed wedi gadael drws ei fflat heb ei gloi am bedwar o'r gloch y prynhawn gan ei bod yn disgwyl yr ofalwraig i alw. Pan ddaeth hi allan o'r ystafell ymolchi roedd dyn yn ei fflat a dywedodd fod merch yn ei ystafell fyw. Aeth Mrs Abraham i edrych a rhedodd y ddau allan. Pan aeth Mrs Abraham i'r ystafell wely roedd ei bagiau ar hyd y lle a' i harian wedi diflannu. Mae'r heddlu yn chwilio am y lladron.Trwy drugaredd ni chafodd niwed corfforol ond mae'r sioc yn ofnadwy ac mae pawb yn teimlo drosti.Anfonwn ein dymuniadau gorau ati a mawr obeithiwn y bydd hi'n teimlo'n well cyn bo hir.

Canu Carolau
Bu criw o blant Y Dell yn canu carolau yn yr ardal adeg y Nadolig. Diolch i bawb a gyfranodd. Casglwyd £37 i Dy hafan.

Howard Morse
Gair gan Mima - Treuliodd Howard a minnau gyfnod gweddol mewn ysbyty ym Mirmingham ac mae'r newyddion yn ffafriol dros ben am y dyfodol. Gyda llaw, clywson fod "bust" o aelod o'r teulu brenhinol yng nghyntedd yr ysbyty ond, i ddweud y gwir, dim ond ei phen welson ni!
   Diolch a chofion cynnes at bawb, Mima.
   Braf deall fod Howard wedi cael llawdriniaeth erbyn hyn ac ei fod yn cryfhau yn yr ysbyty ym Mirmingham.

Marwolaeth
Yn dawel a heddychlon yng Nghartref Henoed Penrhos, Llanilltud Faerdref, fe hunodd Iris Florence Carroll, gynt o Surrey, yn 81 mlwydd oed. Fe fydd Helen, Huw, Becky a Jessica Davies yn gweld ei heisiau. Hoffai'r teulu ddiolch i staff 'Penrhos' am y gofal a chariad arbennig a ddangoswyd iddi ers iddi ddod yno dwy flynedd yn ôl. Diolch hefyd i'r Parch Peter Cutts, Capel Salem, Tonteg am gymryd y gwasanaeth oedd yn gysur i'r teulu.

Capel Salem

· Bu amryw o wasanaethau carolau i ddathlu'r Nadolig gan gynnwys ymweliad gan Côr Ysgol Gwaun Celyn.
· Roedd yn fraint ac anrhydedd i groesawu Bill a Nesta Rogers yn aelodau yng nghapel Salem er eu bod yn ffyddloniaid i bob achos ers dros flwyddyn a'r gymdeithas yn gyfoethocach o'u teyrngarwch (heblaw sôn am yr hiwmor!).
· Mae'n hyfryd gweld nifer cynyddol yn mynychu'r Gwasanaeth Cymraeg am 9 o'r gloch y bore a'r Oedfa

Deuluol newydd am 11 o'r gloch.
· Yn y Cwrdd Blynyddol pasiwyd yn unfrydol dros gadw'r gweinidog am sbel ymhellach.
· Dymuniadau gorau am wellhad buan i Loreena gwraig Gary Pugh a gafodd drawiad ar ei chalon a chyfnod bregus iawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. · Cydymdeimlwn â Christine Jones a gollodd ei mam ychydig cyn Nadolig.

Y Gymdeithas Gymraeg
· Diolch i Christine Jones am drefnu Swper Nadolig a gynhaliwyd yn y Crown.  Roedd yn noson ddifyr ac yn uchafbwynt y flwyddyn. · Yng nghyfarfod cyntaf 2003 gwirfoddolodd yr aelodau i roi disgrifiad ynglyn â sut treuliasant yr ðyl. Dyma noson llawn hwyl arall er na chafodd pethau na  fyddai'n addas ei hailadrodd mewn festri capel mo'u sôn amdanyn nhw wrth  gwrs!

3

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>