 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
EFAIL ISAF
Gohebydd Lleol: Loreen Williams
|
|
|
|
|
 |
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyrraedd Carreg Filltir Arall Aeth teulu'r Hewitts i Gaeredin dros Y Pasg i ddathlu pen-blwydd arbennig iawn un aelod o'r teulu. Llongyfarchiadau Cliff ar gyrraedd carreg filltir arall!
Astudio yn yr Almaen. Mae Andrew Dixey, Heol y ffynnon wedi mynd i'r Almaen am dri mis i astudio ar gyfer gradd uwch ym Mhrifysgol Berlin. Cyfle da i'r teulu ymuno ag Andrew a chael gwyliau braf dros adeg y Pasg.
Côr Merched y Garth yn Loughborough. Teithiodd aelodau Côr Merched y Garth i Loughborough yn ddiweddar i ddiddanu aelodau'r Gymdeithas Gymraeg yno. Yn ogystal ag eitemau'r Côr cafwyd cyfraniadau gan Y triawd, Bethan, Gill a Petra, cadwyn o ganeuon gwerin gan Llinos, a darlleniadau o "Under Milk Wood" gan Margaret a Sheila. Cyflwynwyd yr eitemau gan Gill Williams a'r cyfeilydd oedd Eirlys Lamb. Croesawyd y Côr yn gynnes iawn i Loughborough gan Betty y llywydd ac aelodau'r Gymdeithas. Mae Betty yn hannu o Aberdar ac yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd o dan gyfarwyddyd Margaret Roberts un o aelodau'r Côr. Roedd yn braf hefyd cael ein croesawu i'r gwesty gan yr Is-reolwr a oedd yn Gymro Cymraeg o Benygroes, Arfon.
Taith i Nice. Bu nifer o aelodau Cymdeithas Gymraeg Llantrisant a'r Cylch yn mwynhau tywydd braf De Ffrainc yn ddiweddar. Treuliasom dridiau yng ngwesty hyfryd Y Grimaldi yn Nice. Cawsom ein temtio i werthu ein heiddo yn Efail Isaf a phrynu cwch yn Cannes, Monaco neu Monte Carlo a byw yno fel arglwyddi! Mae hawl gan bawb freuddwydio! Diolch i Gwilym Treharne a John Edmunds am drefnu'r daith.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gorffwyso ger y traeth yn Nice
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
Y TABERNACL Derbyn aelodau newydd. Derbyniwyd pedwar o aelodau newydd yn ddiweddar. Wyn a Kate Innes a Bethan Jones o'r Creigiau a Rosalind Evans o Rydlafar. Croeso cynnes i chi i'r eglwys.
Priodas Llongyfarchiadau i Eirian Davies a Trystan Edwards ar eu priodas yn Y Tabernacl ar Ddydd Llun Y Pasg. Merch Emlyn ac Ann Davies Pentyrch yw Eirian ac mae Trystan yn frodor o Dregaron.
Trefn yr Oedfaon am Fis Mai. Mai 4edd Cymundeb o dan ofal Y Gweinidog Mai 11 ed Paratoi ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol Mai 18ed Elenid Jones. Mai 25ain Y Doctor Hefin Jones, Caerdydd.
Côr Godre'r Garth Bu'r côr yn canu mewn Noson i'w Chofio i godi arian i Eisteddfod yr Urdd yng Nghapel y Tabernacl, Treforus ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Mai. Roedd yn noson arbennig yn cynnwys cyfraniadau gan Ysgol Gyfun Gðyr, Huw Tregelles Williams, Angharad Brinn a'r chwiorydd amryddawn o Drefdraeth, Nerys a Llinos Richards. O dan arweiniad Gareth Williams a'r cyfeilydd Branwen Evans mae Côr Godre'r Garth yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a gwhoddir aelodau newydd i ymuno am 7.30pm nos Sul, 18 Mai yn Neuadd y Pentref, Efail Isaf.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ar ddechrau'r tymor yma - rydym yn cydymdeimlo â Mrs Meira Owen ar golli ei mam yn y Gogledd ychydig ddyddiau cyn y Pasg.
Llwyddiant Nofio. Ar ddydd Sul, Ebrill 27, llwyddodd Elise Rees, Blwyddyn 4, i ennill medal efydd mewn cystadleuaeth Nofio Sirol - Pencampwriaeth Nofio Amatur Morgannwg Ganol. Cafodd ei medal efydd am ddod yn drydedd yn y ras gyfnewid 100 metr. Mae Elise yn aelod o glwb nofio'r Siarcod yn Llantrisant. Fe fydd hi yn cystadlu nesaf mewn cystadleuaeth Sirol yn y Rhondda ar benwythnos Mai 3 / 4. Pob lwc i ti Elise.
Eisteddfod Sir Llongyfarchiadau i'r unigolion a fu'n llwyddiannus yn Eisteddfod Sir yr Urdd cyn gwyliau'r Pasg. Fe fydd y parti adran a'r ddawnswraig disgo unigol (Jessica Davies) - yn cynrychioli Sir Bro Morgannwg yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y Sulgwyn. Pob lwc i bawb fydd yn cynrychioli Bro Morgannwg Ganol.
Clwb Newydd Yn ystod Mis Mai, bwriedir sefydlu clwb newydd, sef clwb pêl droed Cyfnod Allweddol 1. Fe fydd Swyddog Datblygu pêl droed y Sir yn gyfrifol am redeg y clwb, fe fyddant ym ymarfer eu sgiliau bob pnawn Llun, 3.30 4.30 o'r gloch - a'r gost fydd £2 yr wythnos.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|