|
mwynhaodd y tîm y profiad o chwarae a chymdeithasu.
C.A.V.M.S. Daeth cynrychiolwyr o C.A.V.M.S. i'r ysgol i sôn am ac arddangos offerynnau cerddorol i'r plant ac i'w rhieni. Cafwyd noson hwyliog ac roedd brwdfrydedd mawr ymhlith y plant.
Clwb yr Urdd. Ers mis Medi bob nos Fawrth cynhelir clwb yr Urdd yn yr ysgol. Mae'r athrawon a'r plant yn mwynhau'r gweithgareddau amrywiol.
Ymweliadau. Porthcawl. Bydd plant blwyddyn 1 a 2 yn ymweld â Phorthcawl a'r Orsaf Bad Achub ar Fai y cyntaf fel rhan o'r thema tymhorol.
Techniquest. Bydd yr Adran Iau hefyd yn ymweld â 'Techniquest', ar Fai 7 fel rhan o thema'r tymor sef,'Y Ddaear a thu Hwnt'.
Cerdded Noddedig. Bydd Cymdeithas Rieni a Ffrindiau'r ysgol yn trefnu taith o amgylch yr ysgol i'r Babanod ac o amgylch Beddau i'r Adran Iau ar Fai 16.
Trawsgwlad yr Urdd. Dymunwn bob llwyddiant i Clair Bloxsome, Blwyddyn 5 yn y gystadleuaeth hon a gynhelir yn Aberystwyth ar Fai 17. Mae'n rhedwraig arbennig o chwim ac mae'n haeddu llwyddiant.
Clwb Carco Castellau. Mae'r clwb yng Nghastellau yn mynd o nerth i nerth o dan arweiniad Mrs Carol Minton. Mae amserlen bendant gan y clwb sydd yn cynnwys nofio, 'Kids Playland', nosweithiau Celf a Chrefft a choginio, ac i orffen yr wythnos noson fideo a Mc Donalds.
|
|