Daeth torf i Glwb Rygbi Pontypridd i lansiad Parti Ponty yng nghwmni aelodau o Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chynghorwyr Rhondda Cynon Taf ar 15 Mai. Roedd yn gyfle i ddathlu'r buddsoddiad sylweddol mae'r Fenter Iaith, y BBC a'r Cyngor Sir yn rhoi i mewn i Barti Ponty ac i edrych ymlaen at ðyl arall ym Mharc Ynysangharad ar ddydd Sadwrn 5ed o Orffennaf. Roedd hefyd yn gyfle i Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, dderbyn yn ffurfiol Cynllun Addysg Iaith Gymraeg Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf. Hwn yw'r cynllun olaf i gael ei fabwysiadu gan y Bwrdd ac mae'n dilyn trafodaethau maith rhwng y Bwrdd a'r Cyngor. Derbyniwyd tysytysgrif ar ran y Cyngor gan y Cynghorydd Rebecca Winter, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Faterion Datblygiad Plant, yr Ysgolion a Diwylliant..
Plant Ysgol Evan James
yn y Parti Lansio
Y Cynghorydd Rebecca Winter yn anerch y cyfarfod
TAITH GERDDED
DEWCH I GERDDED, SIARAD CYMRAEG - A MWYNHAU!!!
DEWCH I GLYWED AM HANES LLEOL A BYWYD GWYLLT PENDERYN
Dydd Sadwrn 7 Mehefin 2003
am 2.00 o'r gloch
PRIS £2 yr un neu yn rhad ac am ddim i blant,
Pawb i gyfarfod ger Neuadd Gymunedol Penderyn (yn agos i Ysgol Benderyn)
Os fydd y tywydd yn ddrwg fe fyddwn yn cwrdd yn Nhafarn y Lamb, Penderyn am ddiod a sgwrs
Fe fydd y graddiant yn ara-deg ar hyd hen rheilffordd Penderyn. Fe fyddwn yn cyfarfod â Mrs.Nancy Selwood (awdures poblogaidd yr ardal ). Fe fydd y daith yn para tua 2 awr.
Trefnir y daith gan CYD A Menter Iaith a'r tywysydd fydd Jeff Davies (Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).