<< Tudalen Blaenorol

Tafod Elái Gorffennaf 2003

Tudalen Nesaf >>

PENTYRCH

Gohebydd Lleol: Bethan Griffith

Gwobr Arbennig
Llongyfarchiadau i Robert Morgan, Alloway a enillodd Gwobr Goffa Ted Breeze Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Margam. Derbyniodd y wobr gyntaf am dynnu llun du a gwyn o dan y thema 'Ar Wib'. cyflwynwyd y wobr iddo ar lwyfan yr Eisteddfod gan Eurig Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod.

Cystadleuaeth Llefaru
Llongyfarchiadau i Catrin Heledd, merch Eleri a Ken Jones wedi iddi ennill y safle cyntaf yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol. Bu Catrin yn cystadlu ym mhellach am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ar Nos Sadwrn 28ain Mehefin.

Gwellhad Buan
Dymunwn wellhad buan i Margaret Hughes a Judith Evans, Maes y Sarn ac i James Snowball, Pen y Waun sydd heb fod yn holliach yn ddiweddar. Efallai fy mod braidd yn hwyr wrth ddanfon y dymuniadau, ond gobeithio eich bod i gyd wedi cryfhau erbyn hyn.

Cydymdeimlad
Hoffwn estyn ein cydymdeimlad â Vi a Gwyn Jones, Heol y Parc, wedi i Vi golli ei chwaer, yn ddiweddar.

Arholiad Piano
Llongyfarchiadau i Aled Rees, Heol y Parc sydd newydd basio'i arholiad Piano Gradd 1.

Arholiad Cyfieithu
Llongyfarchiadau i Penri Williams, Hendre, Pantbach, sydd newydd basio'i arholiad cyfieithu ac wedi ei dderbyn yn Aelod Sylfaenol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Merched y Wawr
Roedd noson olaf y tymor o dan ofal Jen McDonald. Aeth criw i gerdded yn ardal Llanbedr Gwynllwg ac yna am bryd o fwyd blasus yn Nhafarn y Church House.

Criw Clwb y Dwrlyn uwch ben Chwarel y Garth

Clwb y Dwrlyn
Cynhaliwyd dau achlysur llwyddiannus iawn yn ystod mis Mehefin. Arweiniodd Don Llewellyn ni i'r Garth Fach i weld olion o'r gorffennol ac i weld y chwarel enfawr. Ac aeth criw ar yr Helfa Drysor gan ddilyn y trywydd drwy Sain Ffagan a Sain Nicolas heibio'r Tomenni Hynafol i'r Wenfo. Diolch i Dewi, Heulwen, Ann a Rhodri am drefnu noson hwyliog a llongyfarchiadau i Cerith, Eirlys, Carol a Penri am ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth agos iawn.

Gorsedd y Beirdd
Llongyfarchiadau i'r Barnwr Wyn Rees, Llysycoed ar ei wahodd i'w Urddo yn Wisg Wen yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn.

Ficer Pentyrch
Y Parch Horatio Thomas, Ficer  Pentyrch (1834 - 1880) oedd testun sgwrs gan Dr R. Elwyn Hughes yng nghyfarfod mis Mehefin o Gymdeithas Hanesyddol Pentyrch. Er mai yn Saesneg y traddodwyd y sgwrs roedd nifer o'r dyfyniadau yn Gymraeg a chafwyd darlun o ddylanwad Horatio Thomas ar y pentref, Eisteddfodau'r ardal ac ar ddinasyddion di-Gymraeg y brif-ddinas.

Elwyn Hughes a Don Llewellyn, Cadeirydd Cymdeithas Hanesyddol Pentyrch

YSGOL
GARTH OLWG

<< Tudalen Blaenorol