<< Tudalen Blaenorol

Tafod Elái Gorffennaf 2003

Tudalen Nesaf >>

YSGOL GYFUN LLANHARI

Eisteddfod yr Urdd
Fe fu'r ysgol yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod ym Margam, roeddem wedi ennill ar 18 cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Sir, ac fe fu llawer o waith yn cael ei wneud er mwyn cael y plant yn barod ar gyfer y Genedlaethol.
   Yn anffodus ar ôl yr holl waith caled dim ond tri peth lwyddodd i gyrraedd y llwyfan, roedd safon y cystadlu yn uchel iawn fel arfer. Roedd Detholiad Llafar Blwyddyn 7, 8 a 9 12 - 15 oed wedi gwneud yn arbennig o dda i ddod yn ail.
   Daeth ein Detholaid Llafar Blwyddyn 10 i 12, 15 - 19 oed yn drydydd mewn cystadleuaeth arbennig o dda.
   Fe ddaeth Eifion Weinzweig o Flwyddyn 10 yn drydydd ar y gystadleuaeth Dawnsio gwerin unigol i fechgyn 14 - 25 oed. Mae ganddo nifer o flynyddoedd i wella ac i ennill y gsytadleuaeth yma.

Mynd i Stryd Downing
Mae merch o Flwyddyn 9, sef Frances Samuel, wedi cael ei dewis i fynd gyda Aelod Seneddol Penybont ar Ogwr, Huw Irranca Davies A.S., ar ymweliad i Stryd Downing, mae ei mam yn mynd gyda hi hefyd.

Cofio
Ychydig dros flwyddyn yn ol fe fu farw disgybl annwyl iawn ym Mlwyddyn 8. Mae amgychiadau ei farwolaeth yn dal i fod yn ddirgel. `Roedd Ricky Saunders yn fachgen hoffus a direudus, bob amser gyda gwen ar ei wyneb ac fe fu ei farwolaeth yn sioc a cholled fawr i'w deulu, ei frawd hyn Nathan, ei gyd-ddisgyblion a'i athrawon i gyd. Erbyn hyn yn yr ysgol, mae cofeb fach wedi cael ei rhoi ar y wal yn agos i ble yr oedd Ricky yn cofrestru bob dydd gyda gweddill ei ddosbarth tiwtor.
   Mae ei gyd-ddisgyblion, Mr Peter Griffiths - ein cyn-brifathro a Mr Gill Rheolwr Safle'r ysgol wedi bod yn cyd-weithio er mwyn codi arian ac wedyn cynllunio a creu gardd yn yr ysgol i gofio am Ricky, mae'r ardd yma yn awr wedi cael ei chwblhau, ac ar gael i unrhywun o'n

disgyblion i eistedd ynddi ac i fwynhau yno. Bu siop B&Q yn garedig iawn yn noddi gwerth £500 o nwyddau ar gyfer yr ardd yma.

Athletau'r Sir
Roedd plant blwydyn 8 a 9 wedi perfformio yn arbennig o dda ac yn gwneud ei gorau yn y cystaldaethau ar 9 mehefin. Roedd 44 ysgol yn cystadlu ac roedd 8 disgybl allan o'r 15 o Lanhari wedi mynd trwyddo i'r rownd derfynol - Rebecca Gatt Bl 8 1af yn y Naid Hir, 2il yn y 100metr. Rhian Phillips Bl 9 yn 3ydd ar y waywffon a'r clwyddi. Rhian Thomas Bl 8 3ydd yn y ras 1500 metr.
   Ras gyfnewid merched Llanhari wedi ennill. Ras gyfnewid bechgyn Llanhari yn drydydd.


Athletau Cwpan TSB/NAS UWT Ysgolion Cymru

Bu 45 o ddisgyblion o flynyddoedd 7 i 10 o Lanhari yn cystadlu yn y bencampwriaeth  yn Aberdar ar 12 Mehefin. Roedd chwech ysgol yn cystadlu.
   Roedd tîm y merched iau Bl 7 ac 8 wedi ennill ac yn mynd i rownd y Sir. Daeth tîm y bechgyn iau Bl 7 ac 8 yn ail - ddim ond wedi colli o 1 pwynt.
   Roedd tîm merched hyn Bl 9 a 10 yn ail. Roedd tîm bechgyn hyn Bl 9 a 10 yn drydydd. Mae talent aruthrol gan nifer o'r disgyblion, maent yn ymarfer yn gyson ac yn haeddu llwyddiant.

CYRRAEDD
OED YR ADDEWID


Annwyl ddarllenydd,
Ydych chi ar drothwy oed yr addewid neu wedi ymddeol yn ddiweddar? A fyddech chi yn barod i rannu eich profiadau â'r genedl yn y gyfres radio `Oed yr Addewid' yw ddarlledu ym mis Medi? Os felly cysylltwch ac Emyr Glasnant ar 02920 550581 neu 07980 861776 neu trwy E bost:
  emyrglasnant@boomerang.co.uk
Diolch
Emyr Glasnant


Ydy Alcohol yn costio mwy nag arian i ti?
Paid digalonni! Mae 'na ateb!
AA
Alcoholigion Anhysbys
Ffonia 0845 76975555 a gofyn am gael sgwrs yn Gymraeg gyda rhywun sy'n deall.

4

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>