|
Newid Gyrfa. Pob hwyl i Nerys Brown, Nun's Cres., Graigwen wrth iddi gychwyn ar ei chwrs ymarfer dysgu yn yr Athrofa yng Nghaerdydd. Tan yn ddiweddar buodd Nerys yn gweithio fel bwrsar yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Pen-blwydd Hapus!! Llongyfarchiadau i ddau o ddarllenwyr Tafod Elái buodd yn dathlu pen-blwyddi arbennig ym mis Gorffennaf -- sef Martyn Geraint, Ynysybwl a Daniel Thomas, Pantygraigwen.
Ymddeol. Dymuniadau gorau i Sian Thomas, Graigwen Parc ar ei hymddeoliad. Buodd Sian yn dysgu am nifer o flynyddoedd yn Ysgol Gymraeg Llwyncelyn, Porth.
Graddio. Llongyfarchiadau i Lowri Mair Jones, Y Comin ar ennill gradd 2.1 mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion. Hefyd Lowri Mared Davies, Cilfynydd a raddiodd mewn Hanes ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe.
Priodasau'r Haf. Llongyfarchiadau i Geraint Jones, gynt o Bontypridd, a briododd ei gariad, Michelle, mewn pentref tu allan i Hungerford. Maent wedi mynd i grwydro'r byd am flwyddyn ond yn mawr obeithio dod nôl i Gymru i fyw! Aeth Sian Jones a'i chariad Richard Lewis mor bell â Las Vegas i briodi ym Mis Awst. Aeth rhieni y ddau gyda nhw i fod yn dystion i'r briodas. Mae'n siwr bydd straeon diri ganddynt i'w hadrodd i'r teulu a'r ffrindiau yn yr ardal sy'n dymuno'n dda iddynt. Maent wedi ymgartrefu ym Maesycoed. Priododd Clare Morgan a Gavin Rees yng Nghapel Bethel, Y Ddraenen Wen. Athrawes yw Clare yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ond mae hi hefyd yn aelod o Gôr Godre'r Garth. Ei dymuniad oedd i'r côr ganu yn ei phriodas ac felly bu! Fe ganon nhw "Nefol Addfwyn Oen" ac "Am Brydferthwch". Ai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ganu ym mhriodas un o'u aelodau? Roedd Eleri Darkins wedi cyrraedd nôl o Wlad Thai, aelod arall o'r cor, i ganu'r delyn yn ystod y gwasanaeth.
|
|