Tafod Elái Medi 2003

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

EFAIL ISAF

Gohebydd Lleol: Loreen Williams

ac Anne Thomas, Heol y Ffynnon wedi dotio ar Megan eu hwyres fach.

GRADDIO
Llongyfarchiadau gwresog i amryw o fyfyrwyr o'r pentref sydd wedi graddio eleni. Llongyfarchiadau i Bethan Eyres, Heol Iscoed sydd wedi derbyn gradd mewn Seicoleg o Goleg y Brifysgol Caerdydd.
   Llongyfarchiadau i Rhian Mahoney, Heol Tir Coch sydd wedi derbyn gradd mewn Cymdeithaseg o Goleg Prifysgol Morgannwg.
   Llongyfarchiadau hefyd i Ria Pritchard Copley, Heol Iscoed a dderbyniodd radd mewn Hanes a Chymdeithaseg o Goleg Prifysgol Warwick.
   Llongyfarchiadau gwresog i Dawn Watkins ar dderbyn gradd mewn Nyrsio o Goleg y Brifysgol Abertawe yn ogystal â gweithio'n llawn amser yn Uned Gofal y Galon yn Ysbyty Brenhinol Llantrisant.

ARHOLIADAU
Llongyfarchiadau i'r disgyblion o'r pentref sy'n mynychu Ysgolion Cyfun Llanhari a Rhydfelen ar eu llwyddiant yn yr arholiadau. Bydd cyfle i fanylu yn y rhifyn nesaf ac i ddymuno'n dda iddynt yn eu dewis feysydd yn y Coleg.

AWDUR YN DYCHWELYD I'R PENTREF
Pan symudais i a Carey i'r pentref ddiwedd y chwedegau, perchennog siop fach y pentre oedd person o dras Pwylaidd o'r enw Leon Henke.
   Syndod i ni wrth alw yn y siop un bore ym Mis Gorffennaf oedd cyfarfod a mab Leon Henke. Mae Paul Henke yn awdur llawn amser erbyn hyn ac roedd wedi galw yn siop y Pentre' i hyrwyddo gwerthiant ac arwyddo ei lyfrau. Bu'n gweithio am flynyddoedd gyda'r Llynges ac wedi cael profiadau cyffrous iawn led-led y byd. Pan oedd yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon yn y saithdegau y dechreuodd ysgrifennu ei nofel gyntaf, "A Million Tears", Nofel wedi ei seilio ar hanes y cymoedd glo. Erbyn hyn mae'n tynnu'n helaeth ar ei brofiadau yn y llynges i greu nofelau ias-oer. Mae wedi ymgartrefu mewn pentref bach ar lannau Loch Lomond ond mae ganddo ail-gartref yn Y Swisdir hefyd. Mae'r busnes ysgrifennu yma

siwr o fod yn talu'n dda!


Y TABERNACL.
Trip yr Ysgol Sul.

Bydd gwibdaith plant yr Ysgol Sul ar Ddydd Sadwrn y Chweched o Fedi yn mynd i Barc Saffari Y West Midlands. Cysylltwch â Sara Thomas neu Catrin Stenner am fanylion pellach.

Teulu Twm
Treuliodd aelodau Teulu Twm egwyl fach yn Yr Iwerddon ddiwedd Awst yng nghwmni Bethan a Huw y ddau arweinydd. Mae apel daer i unrhyw ddisgybl o oed uwchradd i ymuno yn y Cyfarfodydd bob Nos Sul yn y Festri. Cewch ddigon o hwyl a sbort a sbri yng nghwmni Bethan a Huw.

Clwb Drama i'r Plant Cynradd
Ym Mis Medi bydd cyfarfod i blant rhwng 7 - 11 oed yn cael ei sefydlu yn y Festri.
   Pwy a ðyr, ... efallai fod yna Ioan Gruffydd neu Catherine Zeta Jones yn ein plith yn barod i flodeuo. Cysylltwch â'r Parchedig Eirian Rees os oes diddordeb gennych. Fe fydd croeso i blant sydd heb fod yn aelodau o'r Ysgol Sul.

Bedydd
Bedyddiwyd Ffion Elen, merch fach Lowri a Jeremy Jones yn yr Oedfa Fore Sul yr 20fed o Orffennaf. Daeth nifer o ffrindiau a theulu Lowri a Jeremy ynghyd i'r achlysur hapus. Rwyn siwr fod Tad-cu a Mamgu, Lyn ac Angela Devonald a Thaid a Nain o Rhyl yn falch iawn o'u hwyres fach annwyl. Dymunwn adferiad iechyd buan i Lyn.

Priodas
Llongyfarchiadau gwresog i un o'n haelodau, Carys Wynne, merch Rowland a Marian Wynne ar ei phriodas â Doctor Grant Sanders ar Ddydd Sadwrn Gorffennaf 26ain.
Dymuniadau gorau i'r par ifanc.

Trefn y Suliau ar gyfer Mis Medi.
Medi 7fed Gwasanaeth Cymun o dan ofal Y Gweinidog,

Medi l4ed Mr Allan James.
Medi 21ain Y Parchedig Cynwil Williams
Medi 28ain Y Parchedig Aled Edwards.


CYDYMDEIMLO
Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â Miss Olwen Harries, Nant y felin ar golli ei mam yn ddiweddar. Roedd Mrs Eleanor Harries yn hanu o Sir Gaerfyrddin ond roedd wedi byw gyda'i merch yn Yr Efail Isaf am gyfnod hir. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Llanymddyfri ac yn Amlosgfa Llwydcoed, Aberdar ddiwedd Mis Mehefin.
   Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant hefyd a Carol a Huw John, David a Richard, Heol Iscoed ar golli tad Carol yn ddiweddar. Bregus fu iechyd Mr Maldwyn James ers rhai wythnosau a bu farw yn Ysbyty Aberdar ar y 19fed o Orffennaf ac yntau yn 90oed. Yn ei ddydd bu'n athletwr o fri gan chwarae yn safle'r bachwr i dim rygbi cenedlaethol Cymru. Estynnwn ein cydymdeimlad â'i weddw, Marjorie a'r teulu i gyd yn Efail Isaf.
   Trist yw cofnodi marwolaeth annhymig Mrs Yolande Beale yn ystod Mis Mehefin. Mae'n siwr fod amryw o drigolion sydd wedi bwrw gwreiddiau go ddwfn yn y pentref yn cofio ei gwr, Doctor John Beale yn feddyg yn yr ardal. Er nad oedd y rhieni yn Gymry Cymraeg cafodd y plant eu haddysg cynnar yn Ysgol Gymraeg Garth Olwg cyn symud i fyw i Ramsgate. Cydymdeimlwn yn ddiffuant â Doctor John Beale a'r teulu, Gideon, Jonathan, Rachel a Hannah. Mae'r bechgyn wedi torri cwys iddynt eu hunain ym myd gwleidyddiaeth gyda Jonathan yn ymddangos yn aml ar y teledu yn gohebu o rif 10 Stryd Downing. Dilyn eu tad i'r byd iechyd wnaeth y ddwy ferch.

GENEDIGAETHAU
Llongyfarchiadau gwresog i Andrew ac Angela Cavil, 137 Nantcelyn ar enedigaeth eu mab bach, Dewi James. Brawd bach i Elinor ac Iwan.
   Llongyfarchiadau mawr hefyd i Carys a Tony Ackerman, Foxfields, Pentre'r Eglwys ar enedigaeth eu merch fach Megan Eve Jane ar Fehefin 27ain. Mae Taid a Nain, Ed

4

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>