<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

Tafod Elái Tachwedd 2003

NOSON WOBRWYO


Nos Sul 12 Hydref cynhaliwyd Noson Wobrwyo myfyrwyr Cymraeg i Oedolion Morgannwg.  Cyflwynwyd tystysgrifau credydau Rhwydwaith y Coleg Agored i tua 80 o'r fil sy wrthi'n dysgu yn yr ardal. Heather Jones oedd y wraig wâdd a cyflwynodd y tystysgrifau ac a adroddodd air o brofiad personol am feistroli'r iaith.
Cafwyd noson hyfryd a bwyd da. Diolch i staff Gwesty Treftadaeth y Rhondda am weini a chynorthwyo mor ddi-drafferth.  Diolch hefyd i Maldwyn ac Ann, Siop y Bont am ddod ag arlwy eang  o nwyddau, i Eric Evans am gynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ac i'r tiwtoriaid diwyd am hebrwng eu myfyrwyr.
  Pe dymunai unrhyw ddarllenydd Tafod Elái alw i mewn ar un o'r dosbarthiadau i gael sgwrs a chynnig cymorth, cysylltwch â Colin Williams, 01443  402867 neu i.colin.williams@rhondda-cynon-taff.gov.uk.

"Mae llais Heather yn dal fel cloch, ond ydy?" 

Y Daith i Uffern

Mae Gwasg Carreg Gwalch newydd gyhoeddi nofel gyntaf dyn o Ffynnon Taf sy'n 52 oed.

"Mae hon yn nofel bwerus sydd yn ein siglo ar brydiau ac mae cynildeb yr ysgrifennu'n awgrymu llawer."
Bu Martin yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bryntaf, Caerdydd, cyn mynd i Ysgol Uwchradd Cathays. Bu'n weithiwr dur, yn swyddog clerigol ac yn ofalwr shifft. Wedyn bu'n is-olygydd ar y Western Mail, yn newyddiadurwr ar Y Byd ar Bedwar a Week In Week Out, gan ennill gwobrau Cymreig a Phrydeinig. Fe yw Uwchnewyddiadurwr Newyddion Cymru'r Byd, gwasanaeth arlein BBC Cymru.

Mae'n byw yn Ffynnon Taf gyda'i wraig Nest a'u merch Carys ac yn ohebydd papur bro Tafod Elái. Eisoes mae wedi cyhoeddi llyfryn dwyieithog am hanes Caerdydd a chyfrol o straeon byrion, Sgrech Rhyfel.

Bydd hon yn anrheg ddelfrydol i'r Nadolig.

Manylion bywgraffyddol
Dim Niwed. Martin Huws
£5.50 Gwasg Carreg Gwalch

Martin Huws yw awdur Dim Niwed, nofel am Elsie, menyw yn gweithio mewn siop garpedi sy'n mynd yn gaeth i dabledi ac yn llithro i bwll anobaith. Mae'r nofel y sôn am ei thaith i uffern. Yn rhan olaf y stori gwelwn hi'n dringo o'r iselder erchyll ac yn llwyddo i roi pwrpas i'w bywyd. Ond beth yw'r pris y mae'n gorfod ei dalu?   

"Dyma nofel uchelgeisiol sydd yn herio'r darllenydd o'r dechrau," meddai'r beirniad a'r nofelydd Marion Eames.

Dywedodd fod yr arddull a'r strwythur yn adlewyrchu cyflwr meddwl Elsie, arddull bytiog a thameidiog yn dilyn llif yr ymennydd.

'Tiwtoriaid yn dal i ddysgu am ddysgu'

Sesiwn hyfforddi i rai o'r tiwtoriaid.

3

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>