<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>

Tafod Elái Tachwedd 2003

GILFACH GOCH

Gohebydd Lleol: Betsi Griffiths

Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant

Llangrannog
Ar brynhawn Gwener y 19eg o Fedi, fe aeth 58 o blant Blwyddyn 5 a 6 ynghyd ag aelodau dewr o staff i Wersyll yr Urdd, Llangrannog am benwythnos.
Cawsant amser prysur yn sgïo, nofio, merlota, gwibgartio,  a.a. - y cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.  Diolch i Mrs D Williams, Mrs Hulse a Miss Phillips am roi eu penwythnos i ofalu am y plant ac i Mr O'Neil ddaeth ar ymweliad ar y Dydd Sadwrn.  Roedd 'na blant blinedig iawn yn Nosbarthiadau 7,8 a 9 yr wythnos ganlynol.

Crefftau
Yn ddiweddar, cawsom gwmni ymwelydd o'r India a ddaeth i ddangos i blant yr Adran Iau sut i wneud pob math o addurniadau gan ddefnyddio papur.  Roedd wynebau'r plant yn werth eu gweld wrth iddynt wylio ymwelydd mor dalentog. Bydd 'na addurniadau Nadolig go wahanol yng nghartrefi'r fro eleni.

Trawsgwlad
Aeth 26 o blant Blynyddoedd 4,5 a 6 i gystadlu yng Nghystadleuaeth Rhedeg Trawsgwlad yr Urdd yn Nhonyrefail ar Ddydd Iau, y nawfed o Hydref.  Da iawn nhw am gystadlu yn y gwynt a'r glaw a diolch yn fawr i'w rhieni am ddod i'w cefnogi.  Llongyfarchiadau i Adam Lewis am ddod yn ail yn y ras i fechgyn Blwyddyn 6 ac i Dewi Shorrock am ddod yn bedwerydd yn y ras i fechgyn Blwyddyn 5.  Efallai y sylwch chi fod Mrs Williams, Dosbarth 3 yn edrych yn hynod o heini hefyd y dyddiau hyn!

Wythnos Mathemateg
Fe ddathlodd yr ysgol "Wythnos Mathemateg 2003" drwy wahodd Mr Paul Gooding o "MathsCymru" i gynnal gweithdai Mathemateg gyda disgyblion yr Adran Iau ar Hydref y 23ain.  Cafodd yr ysgol gyfraniad o £200 oddi wrth "Maths Cymru" tuag at gostau'r diwrnod.

Y Cynhaeaf
Cynhaliwyd ein Gwasanaeth Diolchgarwch eleni yn Eglwys y Plwyf, Llantrisant, yng nghwmni Ciwrat yr Eglwys.  Roedd yr ysgol gyfan yn bresennol a chawsom eitemau cerddorol gan yr Uned Dan Bump, Adran y Babanod a'r Adran Iau.
Daeth y plant â chyfraniadau tuag at elusen o ddewis yr Eglwys.

Brysiwch wella
Pob dymuniad da i Lynne Morrow, cogyddes yr ysgol sydd heb fod yn hwylus yn ddiweddar.  Gobeithio y bydd hi nôl gyda ni cyn bo hir.

Profiad gwaith
Cawsom gwmni nifer o fyfyrwyr a chyn-ddisgyblion ar brofiad gwaith yn
ddiweddar.  Daeth Leigh Davies, Catrin Evans a Hayley Evans atom o Ysgol Gyfun Llanhari a Rhian Griffiths o Goleg Penybont a Bethan John o Goleg Morgannwg.  Gobeithio eu bod wedi mwynhau.

Ymweld â Llanhari
Bu disgyblion Blwyddyn 6 ar ymweliad ag Ysgol Gyfun Llanhari ar Hydref y 13eg er mwyn cymryd rhan mewn "Diwrnod Dylunio a Thechnoleg".  Cawsant gyfle i greu addurniadau Nadolig a gemau pren i'w gwerthu yn ffair Nadolig yr ysgol.

Y Goedwig Law
Hefyd ar y 13eg o Hydref, cawsom gwmni Dave o'r "Rainforest Roadshow".  Bu'n sôn wrth ddisgyblion Dosbarthiadau 5,6 a 7 am gymunedau'r goedwig law a rhai o'r creaduriaid sy'n byw yno.  Daeth ag arteffactau o bob math gydag ef, ynghyd â tharantiwla, neidr filtroed a sgorpion go iawn.

Tân
Ar ddydd Sadwrn yr 11eg o Hydref bu tan yn y sied bren y tu ôl i Ddosbarth 7.  Llwyddodd y Gwasanaeth Tan i reoli'r fflamau a'r unig ddifrod i'r dosbarth oedd bod rhai o'r ffenestri wedi'u cracio.  Gallasai fod wedi bod llawer yn waeth.

Ymweliad
Cafodd plant Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ddiwrnod i'r brenin ym Mhlas Llancaiach Fawr ddydd Mawrth, Hydref 14eg.  Cawsant flas ar fywyd yn ystod oes y Tuduriaid drwy wneud cannwyll a gwisgo arfau'r cyfnod.  Ar ôl bwyta cinio blasus cawsant hwyl a sbri yn casglu cnau, mes a dail yr Hydref, ym Mharc Ynys Angharad.

DOSBARTH CWILTIO
Wedi dwy flynedd o waith mae'r Dosbarth Cwiltio wedi gorffen y cwilt. Bu Mrs Bryant, Mrs Abraham a Mrs Jenkins wrthi yn dysgu'r to iau sut i wneud cwilt yn nhraddodiad Gilfach. Mae nhw wedi bod yn cwiltio ers y tridegau pan oedden nhw yn ifanc ac wedi pasio'r grefft ymlaen i'r genhedlaeth nesaf. Bydd y cwilt yn cael ei gadw fel enghraifft er mwyn ei arddangos.
   Er y llawenydd o orffen y cwilt roedd pawb yn flin i glywed am y lladron a ddaeth i dþ Mrs Jenkins sydd yn 94 oed. Daeth dyn i'r drws gan ddweud fod yn rhaid iddo brofi pwysedd y dwr gan fod trafferth drws nesaf. Gadawodd Mrs Jenkins y dyn i'r tþ a daliodd ei llaw ar y tap wrth iddo sylwi ar y dwr. Wedi iddo fynd sylwodd Mrs Jenkins fod rhywun wedi bod yn twrio drwy'r tþ ac wedi dwyn ei harian i gyd.
   Estynnwn ein cydymdeimlad i Mrs Tydfil Parry, aelod o'r dosbarth a gollodd ei gwr yn ddiweddar sef Mr Derek Parry. Cyn ymddeol roedd Derek a Tydfil yn cadw'r siop Cig Moch Danaidd yn Nhreorci.

THEATR
Teithiodd dau lond bws yn ddiweddar i Theatr y ' Phoenix' Ton Pentre i gefnogi Marilyn Hodge aelod o gwmni drama Gilfach oedd wedi ei dewis gan Frank Vicery i chwarae yn ei gomedi diweddaraf 'Tonto Evans'. Roedd canmol mawr i berfformiad Marilyn a mwynhaodd pawb y ddrama yn fawr iawn. Bydd y ddrama yn mynd ar daith o gwmpas De Cymru.

HOLY MOSES
Aeth llond bws i weld Drama-gerdd Byddin yr Iachawdwriaeth Pentre. Roedd pawb yn canmol y sioe yn fawr iawn ac am longyfarch aelodau Pentre a weithiodd mor galed i gyflwyno noson o safon. Roedd y canu a'r actio yn arbennig o dda a gobeithiwn y bydd sioe arall y flwyddyn nesaf. Diolch i Mrs Lorraine Jones a Julie Kelly am drefnu'r ymweliad.

YMDDEOLIAD
Dymunwn yn dda i Don a Myra Jones sy'n ymddeol ar ôl bod yn Bostfeistri yn Swyddfa Post y Stryd Fawr am 28 o flynyddoedd. Bydd y Swyddfa Post yn awr yn rhan o Siop Judy ar y sgwâr

THEATR BARA CAWS
yn cyflwyno
DULCE DOMUM
gan Valmai Jones

gyda Maldwyn John, Valmai Jones, Christine Pritchard, Gaynor Morgan Rees, Olwen Rees a Manon Steffan

8pm Nos Wener a Nos Sadwrn, Rhagfyr 5 a 6 yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd.
Tocynnau 029 20631144

4

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>