|
Ymweliad Ysgol Mwynhaodd plant cyfnod allweddol dau yr ysgol eu hymweliad â Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ar Dachwedd 25 i weld cynhyrchiad o'r "Borrowers".
Nesau at y Nadolig Mae'r paratoadau ar gyfer y Nadolig ar garlam. Dyma rai or gweithgareddau. 1.12.03 - Cym.Rh.Ath. yn addurno'r Neuadd. 2.12.03 - Ffair lyfrau, cardiau Nadolig - Siop-y-Bont, Pontypridd - yn y Neuadd 3.30-4.45 o'r gloch. 4.12.03 - Ffair Nadolig (Cym.Rh.Ath.). 6.12.03 - Pantomeim Saesneg "Dick Whittington" - Aberdâr. Trefnu gan y Gym.Rh.Ath. 8.12.03 - Pnawn - Plant D, Bl 1 a 2 yn ymarfer yn Salem. 9.12.03 - Pnawn - Plant Bl 3, 4, 5 a 6 yn ymarfer yn Salem. 9.12.03 - 6.30 o'r gloch - Gwasanaeth plant D, Bl 1 a 2 yn Salem. 10.12.03 - Pnawn - Cyngerdd Nadolig plant Meithrin yn Neuadd yr ysgol (1.45 o'r gloch). 11.12.03 - Gwasanaeth plant Bl 3,4,5 a 6 yn Salem - 6.30 o'r gloch. 12.12.03 - Cinio Nadolig yr ysgol. 15.12.03 - Parti Nadolig plant M, D, Bl 1 a 2 yn Neuadd yr ysgol Cym.Rh.Ath. yn trefnu. 16.12.03 - Sioe Nadolig i'r plant "Hosan Lawn Santa". £1.50 y pen. Gyda Phil Harries. 17.12.03 - Pnawn - Disgo Nadolig - Bl 3, 4, 5 a 6 yn Neuadd yr ysgol Cym.Rh.Ath. yn trefnu. 19.12.03 - Diwedd Tymor.
Plant Mewn Angen. Llongyferchir y plant ar eu hymdrechion ardderchog ar ddydd Gwener Tachwedd 21 ain, i godi arian i Blant Mewn Angen. Drwy beidio a gwisgo gwisg ysgol, a thrwy brynu a gwerthu teisennau a losin, Ilwyddwyd i godi £328.95. Da iawn blant Garth Olwg.
Gala Nofio Llongyfarchiadau i bawb fuodd yn cynrychioli Ysgol Garth Olwg yng Ngala Nofio'r Urdd ar y trydydd ar ddeg o Dachwedd. Cafodd merched
|
|