 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
CREIGIAU
Gohebydd Lleol: Nia Williams
|
|
|
|
|
 |
|
|
 |
|
 |
|
|
|
|
EFAIL ISAF
Gohebydd Lleol: Loreen Williams
|
|
|
|
|
 |
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Colli cymeriad Chwith iawn yw cofnodi marwolaeth Arnold Lewis. Cydymdeimlwn yn ddwys â'i weddw Marie a'i blant - Robert ac Adrian. Brodor o ardal Bangor oedd Arnold. Cerddor o fri. Ei ddawn ar y piano yn ogystal â'r organ yn ddigamsyniol. Bu'n gyfeilydd côr y Penrhyn yn ei ieuenctid. Dilynodd yrfa yn y cyfryngau. Gweithiodd yn adran Addysg y BBC i gychwyn cyn ei ddyrchafu'n bennaeth yr adran Gerdd yn y BBC yn ddiweddarach. Gwelir ei golli gan lawer yn y pentref.
Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad i Jane Williams, gweddw y diweddar Huw Brian Williams fu farw mor sydyn ychydig yn ôl. Roedd Huw Brian yn fab i'r diweddar Ifan O. Williams, arloeswr yn nyddiau cynnar y radio yng Nghymru. Ym myd y cyfryngau y gweithiai Huw yntau. Bu'n Uwch-gynhyrchydd/gyfarwyddwr gyda'r BBC yng Nghaerdydd am flynyddoedd lawer. Cydymdeimlwn hefyd â'i fam Marian a'i chwaer Sioned.
Gwellhad buan ... ...i Rhys Jones, gafodd anffawd ar y cae pêl-droed yn ddiweddar. Torrodd Rhys ei fraich ac mae ei dîm yn gweld ei golli yn arw. Brysia wella Rhys i ti gael llenwi'r bwlch yna sy'n y tîm.
Llongyfarchiadau ... ... i Marc Shewring a'i dîm egniol ar berfformiad cerddorol gwych o 'The Sound of Music' yn ddiweddar. Marc, yn rhinwedd ei swydd fel pennaeth cerdd y Ddraenen Wen oedd yn gyfrifol am y sioe - cynhyrchiad gwefreiddiol! Ac os nad oeddech chi yno - wel, roeddech chi ar eich colled! Mae 'na fideo ar gael, medden nhw!
Pwy tybed? Chwi wyddoch bob un bod gan y blaid Geidwadol arweinydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dyweddio Llongyfarchiadau gwresog i Nia Edmunds a Matthew Thomas ar eu dyweddiad. Merch ifanca John a Pat Edmunds, Penywaun yw Nia ac mae'n athrawes yn Ysgol Gynradd Penderyn, ger Aberdâr. Mae Matthew yn hanu o Lantrisant ac mae yntau newydd ddechrau ar swydd newydd yn beiriannydd yn Llangeinor, gerllaw Penybont-ar-Ogwr. Dymuniadau gorau i'r ddau a phob hapusrwydd i'r dyfodol.
Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Owen Thomas, mab John Llewelyn a Judith Thomas, Nantcelyn ar gwblhau yn llwyddiannus ei Gwrs Newyddiaduriaeth. Bu'n gweithio gyda'r Uxbridge Chronicle am ddwy flynedd tra'n hyfforddi o dan adain Grðp y Trinity Mirror.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gavin Ashcroft a Menna Thomas
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Llwyddiant yn yr Ðyl Gerdd Dant Llongyfarchiadau i Menna Thomas, Waunhir a Gavin Ashcroft am gipio'r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y ddeuawd yn yr Ðyl Gerdd Dant yn Aberystwyth ddechre' Mis Tachwedd.
Y TABERNACL.
Gwellhad Buan Dymuna holl aelodau'r Tabernacl wellhad buan i'r Parchedig Eirian Rees. Bu'n dipyn o sioc i bawb wrth gyrraedd y capel ar Sul cynta' Mis Tachwedd i ddeall fod ein gweinidog wedi ei gymryd yn wael i'r ysbyty yn oriau man y bore. Braf yw gallu cofnodi fod Eirian dipyn yn well erbyn hyn a'i fod wedi dod adre' o'r ysbyty. Rhaid pwyllo ychydig am rai wythnosau nawr!
Trefn y Suliau Rhagfyr 7fed Mr Alan James, Llantrisant Rhagfyr 14ed Dathlu'r Nadolig gyda Phlant yr Ysgol Sul Rhagfyr 21ain Dathlu'r Nadolig gydag aelodau Teulu Twm. Rhagfyr 28ain Mr Geraint Wyn Davies,Y Groesfaen. Ionawr 4edd Mr Geraint Rees, Efail Isaf.
Gwasanaeth Noswyl Nadolig, Rhagfyr 24ain am 11 o'r gloch yr hwyr. Croeso i aelodau, ffrindiau a chymdogion..
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
newydd - y bonwr Howard o Lanelli. Ond pwy tybed oedd yn rhoi cymorth (honedig!) iddo gyda'i waith cartref Ffiseg? Pwy tybed oedd yn rhoi benthyg ei 'git' rygbi iddo (yn honedig!)? Pwy gafodd ei eni ar yr union yr un diwrnod â'r bonwr Howard? (hollol wir!) Rhieni pwy briododd yr un diwrnod â rhieni y bonwr Howard? (hollol wir!) (Sori, fi gafodd y drefn yn anghywir fan'na!) Wel - wnaethoch chi ddyfalu? Os gwelwch chi Enid yn siopa am wisg fwy arbennig na'r arfer yn y dyfodol agos - dyna lle gorwedd yr ateb! Ie, y gwron dan sylw yw Mr Brian Davies! Dw i'n siwr bod ganddo straeon difyr iawn i'w hadrodd waeth roedd e a'i gyfeillion Ken Evans, y Dr Rowland Wynne a Mr Michael Howard yn gyfoeswyr yn ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli 'slawer dydd! A 'sgwn i faint fydd hi cyn y caiff Enid a Brian wahoddiad arbennig i rif 10? Watch thees spês.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|